image © Richard StuderPenwythnos Naidfwrdd | 10-11 Mai 2025
Gan adeiladu ar lwyddiant ein Penwythnos Naidfwrdd cyntaf y llynedd, rydym yn cyflwyno Gŵyl fach arall o ddigwyddiadau celfyddydol ddechrau mis Mai 2025. Bydd Naidfwrdd unwaith eto yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer blwyddyn yr Ŵyl, gan rannu cyfres o ddigwyddiadau cymunedol a lansio cyhoeddusrwydd ein Gŵyl Awst yn y dref a’r cylch.
Bydd Naidfwrdd 2025 yn dod â datganiad at ei gilydd gan y soprano Sophia Jin a’r delynores Olivia Jageurs, Dave Luke ac Alex Valentine yn lansio eu halbwm newydd yn The Duke’s Arms, cerddoriaeth galw heibio am ddim yn Llyfrgell Llanandras, sgyrsiau llenyddol, Carwyn Graves ar fwyd Cymreig, taith gerdded leol a dau ddangosiad ffilm ‘Exhibition on Screen’. Bydd Presteigne Plenty a’r Garddwyr Cymunedol yn dod at ei gilydd yn iard Daphne ar gyfer ‘planhigion a mwy’, gwerthu planhigion, ochr yn ochr â gweithgareddau natur plant.
Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys sesiynau gweithdy cyhoeddus gyda chwe chyfansoddwr ifanc sydd ar ein cynllun datblygu proffesiynol ‘Cyfansoddi ar gyfer y Delyn’ ar hyn o bryd, wedi’u mentora gan Lynne Plowman ac Olivia Jageurs.
