• ENG
  • CYM
  • Polisi Preifatrwydd

    photo: Alex Ramsey

    Polisi Preifatrwydd

    Pwrpas y polisi

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.

    Mae defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth well o’n cynulleidfaoedd ac o ganlyniad roi gwybodaeth berthnasol ac amserol i chi am y gwaith a wnawn – ar ar y llwyfan ac oddi arno. Fel elusen, mae hefyd yn ein helpu i ymgysylltu â rhoddwyr a chefnogwyr posibl.

    Pwrpas y polisi hwn yw rhoi esboniad clir i chi am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn gennych chi’n uniongyrchol ac oddi wrth drydydd partïon.

    Rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth yn unol â’r holl gyfreithiau perthnasol sy’n ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi hwn yn esbonio:

    • Pa wybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch chi.
    • Sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon.
    • Ym mha sefyllfaoedd y gallwn ddatgelu eich manylion i drydydd partïon.
    • Ein defnydd o gwcis i wella’ch defnydd chi o’n gwefan.
    • Gwybodaeth am sut rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, sut rydym yn ei chynnal a’ch hawliau chi i gael mynediad iddi.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yng Ngŵyl Llanandras. (privacy@presteignefestival.com).lease contact the Data Protection Officer at the Presteigne Festival (privacy@presteignefestival.com).

    Pwy ydym ni

    Mae Gŵyl Cerdd a Chelfyddydau Llanandras Cyfyngedig yn gwmni elusennol cyfyngedig drwy warant ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynghyd ag amrywiol ymddiriedolaethau, sefydliadau, noddwyr a rhoddwyr a chefnogwyr unigol. Ein rhif elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr yw 1039968, rhif cofrestru ein cwmni yng Nghymru a Lloegr yw 2952926.

    Casglu gwybodaeth

    Rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth mewn sawl ffordd:

    1. Gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni
      Pan fyddwch yn cofrestru ar ein gwefan, yn prynu tocynnau neu’n rhoi i ni, byddwn yn storio gwybodaeth bersonol a roddwch i ni fel eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn a manylion cerdyn. Byddwn hefyd yn cadw cofnod o’ch pryniannau a’ch rhoddion.
    2. Gwybodaeth am eich rhyngweithio â ni
      Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, rydym yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n rhyngweithio â’n cynnwys. Wrth anfon post atoch, rydym yn storio cofnod o hyn, ac yn achos e-byst rydym yn cadw cofnod o ba rai rydych chi wedi’u hagor, a pha ddolenni rydych chi wedi clicio arnyn nhw.
    3. Data personol sensitif
      Mae’r gyfraith Diogelu Data yn cydnabod bod rhai categorïau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif nag eraill, fel gwybodaeth am iechyd, hil, credoau crefyddol a barn wleidyddol. Nid ydym yn casglu’r math hwn o wybodaeth am ein cynulleidfaoedd.

    Sail gyfreithiol

    Mae tair sylfaen y gallwn brosesu eich data odanynt:

    1. Dibenion contract
      Wrth brynu oddi wrthym neu roi i ni, rydych chi’n ymrwymo i gontract gyda ni. Er mwyn cyflawni’r contract hwn, mae angen i ni brosesu a storio eich data. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo, neu os bydd problemau gyda’ch taliad.
    2. Buddiannau busnes cyfreithlon
      Mewn rhai sefyllfaoedd, rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion sydd er ein budd sefydliadol cyfreithlon i ni. Fodd bynnag, rydym ond yn gwneud hyn os nad oes unrhyw ragfarn tra phwysig i chi drwy ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn y modd hwn. Rydym yn disgrifio isod pob sefyllfa lle gallwn ddefnyddio’r sail hon ar gyfer prosesu’ch gwybodaeth bersonol.
    3. Gyda’ch caniatâd penodol
      Ar gyfer unrhyw sefyllfaoedd lle nad yw’r ddwy sylfaen uchod yn briodol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol cyn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn y sefyllfa benodol honno.

    Cyfathrebu at ddiben marchnata

    Ein nod yw cyfathrebu â chi am y gwaith a wnawn mewn ffyrdd sy’n berthnasol i chi, yn amserol ac yn barchus. I wneud hyn, rydym yn defnyddio data rydym wedi’i storio amdanoch, fel pa ddigwyddiadau rydych chi wedi archebu amdanynt yn y gorffennol, yn ogystal ag unrhyw ddewisiadau rydych chi wedi dweud wrthym amdanynt.

    Rydym yn defnyddio ein buddiannau sefydliadol dilys fel sail gyfreithiol ar gyfer cyfathrebu drwy’r post ac e-bost. Yn achos postiadau post, gallwch wrthwynebu derbyn y rhain ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn. Yn achos e-bost, byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan wrth i chi brynu oddi wrthym am y tro cyntaf. Os na fyddwch yn optio allan, byddwn yn rhoi opsiwn i chi ddad-danysgrifio ym mhob e-bost a anfonwn atoch wedyn, neu gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn.

    Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am ein gwaith dros y ffôn hefyd; ond byddwn bob amser yn cael caniatâd penodol gennych cyn gwneud hyn. Cofiwch nad yw hyn yn berthnasol i alwadau ffôn sy’n gysylltiedig â’ch pryniannau (fel uchod).

    Gweithgareddau prosesu eraill

    Yn ogystal â chyfathrebu at ddiben marchnata, rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd canlynol sydd o fewn ein buddiannau sefydliadol dilys:

    • Gallwn ddadansoddi data sydd gennym amdanoch i sicrhau bod cynnwys ac amseriad y cyfathrebiadau a anfonir atoch mor berthnasol â phosibl.
    • Gallwn ddadansoddi data sydd gennym amdanoch er mwyn nodi ac atal twyll.
    • Er mwyn gwella ein gwefan, gallwn ddadansoddi gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio a’r cynnwys rydych chi’n rhyngweithio ag ef.

    Ym mhob un o’r achosion uchod, byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i’ch hawliau a’ch buddiannau i sicrhau nad ydynt yn cael eu trechu gan eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol chi. Mae gennych hawl i wrthwynebu unrhyw ran o’r gwaith prosesu hwn ar unrhyw adeg. Os dymunwch wneud hyn, defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn. Cofiwch, os ydych yn gwrthwynebu, gall hyn effeithio ar ein gallu i gyflawni’r tasgau uchod sydd er eich budd chi.efit.

    Trydydd partïon

    Mae rhai amgylchiadau lle gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti. Mae’r rhain fel a ganlyn.:

    • I’n darparwyr gwasanaeth ein hunain sy’n prosesu data ar ein rhan ac yn ôl ein cyfarwyddiadau ni (er enghraifft darparwr meddalwedd ein system docynnau). Yn yr achosion hyn, rydym yn mynnu bod y trydydd partïon hyn yn cydymffurfio’n llwyr â’n cyfarwyddiadau ac â deddfau diogelu data, er enghraifft ynghylch diogelwch data personol.
    • Lle rydym dan ddyletswydd i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol (er enghraifft i gyrff y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith).

    Cwcis

    Mae llawer o wefannau, gan gynnwys presteignefestival.com, yn defnyddio technegau i wella pa mor hawdd mae gwefan i’w defnyddio a’i gwneud mor ddiddorol â phosibl i bob ymwelydd. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol eich bod yn cael gwybod am y cwcis mae ein gwefan yn eu defnyddio ac at ba ddiben y cânt eu defnyddio.

    Beth yw cwcis?

    Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae presteignefestival.com yn anfon ffeiliau testun bach a elwir yn ‘cwcis’ i’ch cyfrifiadur neu ddyfais. Mae cwci yn storio darnau o wybodaeth ar sail eich ymweliad â gwefan Gŵyl Llanandras. Enghreifftiau o ddata sy’n cael ei storio o fewn ffeiliau cwcis fyddai tocynnau rydych chi’n eu hychwanegu at eich basged siopa er mwyn i chi allu prynu mwy nag un eitem ar y tro.

    Mae’r cwcis hyn naill ai’n para am y cyfnod rydych chi’n defnyddio’r wefan, neu gallant aros ar eich cyfrifiadur am gyfnod cyfyngedig i ganiatáu i presteignefestival.com eich adnabod os dychwelwch.

    Rydym yn defnyddio cwcis i ddarparu gwasanaeth syml ac phwrpasol i chi ar presteignefestival.com, yn ogystal ag olrhain sut mae ymwelwyr yn defnyddio presteignefestival.com. Mae cwcis yn ffeiliau testun bach (.txt) sy’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol am wefan a defnyddiwr penodol.

    Sut i reoli neu ddileu cwcis

    Gallwch atal neu ddileu cwcis ar presteignefestival.com, neu unrhyw wefan arall, gan ddefnyddio dewisiadau eich porwr. Gallwch wrthod pob un neu rai cwcis. Gallwch hefyd ffurfweddu’ch porwr i gael hysbysiadau pan fydd cwci yn cael ei gynnig.

    Am help ar sut i ddileu cwcis, ewch i www.aboutcookies.org. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, os gwrthodwch gwcis, efallai na fydd eich profiad o presteignefestival.com yn cyrraedd ei lawn botensial..

    Gwybodaeth am eich cerdyn debyd a chredyd

    Os defnyddiwch eich cerdyn credyd neu ddebyd i brynu wrthym ni neu i roi i ni, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â Safon Diogelwch Data’r Diwydiant Cardiau Talu (PCI-DSS). Gallwch weld mwy o wybodaeth am y safon hon yma: www.pcisecuritystandards.org/about_us/

    Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi storio manylion eich cerdyn i’w defnyddio mewn trafodion yn y dyfodol. Gwneir hyn yn unol â PCI-DSS ac mewn ffordd lle nad oes unrhyw un o’n haelodau staff yn gallu gweld eich rhif cerdyn llawn. Nid ydym byth yn cadw eich cod diogelwch 3 neu 4 digid.

    Cadw eich gwybodaeth bersonol

    Rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol am gyfnod amhenodol fel y gallwn, ar gyfer unrhyw bryniannau dilynol a wnewch, eu cysylltu’n ôl ag un cofnod unigryw rydym yn ei gadw i chi ar ein system.

    Os oes agweddau ar eich cofnod sy’n anghywir neu yr hoffech eu dileu, gallwch wneud hyn fel arfer trwy fewngofnodi i’ch cyfrif trwy ein gwefan. Fel arall, defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn.

    Bydd unrhyw wrthwynebiadau a wnewch i brosesu eich data yn cael eu storio yn erbyn eich cofnod ar ein system fel y gallwn gydymffurfio â’ch ceisiadau.

    Diogelwch eich gwybodaeth bersonol

    Byddwn yn rhoi mesurau diogelu priodol ar waith (o ran ein gweithdrefnau a’r dechnoleg a ddefnyddiwn) i gadw eich gwybodaeth bersonol mor ddiogel â phosibl. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon a ddefnyddiwn i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gwneud yr un peth.

    Ni fyddwn yn trosglwyddo, prosesu na storio eich data yn unrhyw le y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop.

    Eich hawliau i’ch gwybodaeth bersonol

    Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ac i gywiro unrhyw wallau yn y data hwn. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn os hoffech arfer yr hawl hon.

    Manylion cyswllt a gwybodaeth bellach

    Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw agwedd ar y polisi preifatrwydd hwn, ac yn enwedig os hoffech wrthwynebu i unrhyw brosesu’ch gwybodaeth bersonol a wnawn er ein buddiannau sefydliadol dilys.

    Gŵyl Llanandras
    P O Box 30
    Llanandras
    Powys
    LD8 2WF

    Ffôn +44 (0)1544 267800 | E-bost privacy@presteignefestival.com