
Cefnogwch Ein Rhaglen
Elusen gofrestredig yw Gŵyl Llanandras; mae dros 60% o weithgarwch artistig y sefydliad yn digwydd diolch i haelioni cefnogwyr unigol, corfforaethol ac elusennol sydd wedi galluogi’r Ŵyl i adeiladu enw da nodedig nid yn unig am hyrwyddo a churadu cerddoriaeth gyfoes, ond hefyd am ragoriaeth artistig, rhaglennu cyffrous a rhai o’r cyngherddau clasurol gorau unrhyw le yn y DU.
Er mwyn parhau â’i rhaglen o gomisiynu cerddoriaeth, ei chefnogaeth i artistiaid ifanc dawnus ac i ddatblygu ymgysylltiad cymunedol cryfach, mae sefydlogrwydd ariannol yr Ŵyl yn hanfodol bwysig.
Mae nifer o ffyrdd y gall unigolion neu gwmnïau gefnogi Gŵyl Llanandras – comisiynu gwaith newydd, ariannu preswyliadau artistiaid neu noddi digwyddiadau penodol o fewn y rhaglen. Rhestrir ein prif gynlluniau isod, ond rydym yn agored i awgrymiadau eraill – mae pob croeso i chi gysylltu â ni.
Cronfa Gomisiynu George Vass
Mae comisiynu gwaith newydd gan gyfansoddwyr sefydledig a’r ddawn ifanc anhygoel sydd ar waith yn y DU heddiw ymhlith blaenoriaethau pennaf Gŵyl Llanandras.
Sefydlwyd Cronfa Gomisiynu George Vass yn 2017 i ddathlu pen-blwydd ein Cyfarwyddwr Artistig yn 60 oed ac i nodi ei 25ain blwyddyn fel Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl. Nod y gronfa yw cynhyrchu digon o adnoddau i gomisiynu gweithiau cerddorol mawr. Hyd yma, mae wedi cefnogi comisiynau gan gyfansoddwyr sy’n cynnwys Ninfea Cruttwell-Reade, Michael Zev Gordon, Joseph Phibbs, Julian Philips, Lynne Plowman a Huw Watkins.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ychwanegu eich cefnogaeth chi at y fenter bwysig hon, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Cynllun Noddi Cerddorfa’r Ŵyl
Mae Cynllun Noddi Cerddorfa’r Ŵyl yn galluogi cefnogwyr yr Ŵyl i noddi aelodau unigol Cerddorfa hynod dalentog Gŵyl Llanandras.
Diolch i haelioni rhoddwyr unigol, noddwyd sawl cadair, gan gynnwys un y cyngerddfeistr, yn 2024. Mae noddi yn costio £750 i brif chwaraewr neu £500 ar gyfer chwaraewr llinynnol is.
Bydd unigolion neu gwmnïau sy’n cefnogi’r cynllun yn derbyn yr un manteision â Chyfeillion yr Ŵyl.
Nawdd
P’un a ydych yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, lletygarwch neu ymgysylltu â rhanddeiliaid, nod Gŵyl Llanandras yw meithrin perthnasoedd parhaol trwy werthoedd ac amcanion cyffredin.
Beth am bartneru â Gŵyl Llanandras, arweinydd o fri rhyngwladol yn ei maes? Mae pecynnau pwrpasol ar gael i ddiwallu anghenion unigryw eich cwmni, gan gynnig ystod o fuddion unigryw. Mae’r Nawdd Corfforaethol yn dechrau ar ddim ond £600.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r cynlluniau uchod, neu i drafod syniadau eraill,
Neu os hoffech wneud cyfraniad unigol at yr Ŵyl
