
Polisi Amgylcheddol a Chynaladwyedd
Mae Gŵyl Llanandras yn hynod ymwybodol o’i chyfrifoldeb i ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i’w liniaru ym mhob maes gweithgarwch. Mae’r polisi hwn yn nodi’r mesurau penodol rydym yn eu cymryd adeg ysgrifennu, ac yn rhan o ddarlun sy’n esblygu, wrth i ni edrych ar effaith amgylcheddol ein holl benderfyniadau, a cheisio gwella perfformiad o fewn y cyfyngiadau ymarferol ac ariannol a wynebwn. Rydym yn cydnabod yr effaith y gall gweithgareddau fel ein rhai ni ei chael ar yr amgylchedd, y gymuned a’r economi lleol. Mae’r ddogfen yn crynhoi mesurau amgylcheddol presennol yr Ŵyl, a’r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau cynaladwyedd ac effaith gadarnhaol ar ein gymuned letyol.
Amgylchedd
Rydym wedi mabwysiadu’r arferion dilynol er mwyn lleihau ôl troed carbon yr Ŵyl ac ymateb i argyfwng yr hinsawdd:
- Rydym yn defnyddio papur ailgylchedig ar gyfer deunyddiau cyhoeddusrwydd.
- Rydym yn gwahanu ac yn ailgylchu gwastraff a gynhyrchir, gyda chyn lleied â phosibl yn mynd i dirlenwi.
- Rydym yn ymdrechu i fod yn gorff di-bapur, gan ddefnyddio opsiynau e-bost ac ar-lein lle bo modd.
- Rydym yn cymedroli defnydd unigol ar geir trwy gynnig cludiant coets ac yn annog rhannu ceir o Lanandras i leoliadau tu allan iddi yn ystod cyfnod yr Ŵyl.
- Rydym yn lleihau defnydd ynni cymaint â phosibl trwy ddefnyddio offer a thechnoleg ynni-effeithlon priodol ac yn mynnu bod cyflenwyr yn gwneud yr un peth.
- Rydym yn ceisio dileu’r angen i artistiaid hedfan.
- Rydym yn adlewyrchu gofal am gefn gwlad, fflora a ffawna lleol trwy gynnwys digwyddiadau ac allbwn artistig ar thema’r amgylchedd.
- Rydym yn hyrwyddo defnydd cludiant cyhoeddus ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd sy’n teithio i Lanandras, gan wneud manylion yn glir ar wefan yr Ŵyl ac yn yr wybodaeth i ymwelwyr â’r Ŵyl a anfonir at y sawl sy’n prynu tocynnau ymlaen llaw.
- Lle nad oes modd osgoi defnyddio plastigau, rydym yn sicrhau nad ydynt byth yn rhai untro, ond o ansawdd sy’n gallu cael ei ailddefnyddio a/neu addasu at ddiben gwahanol.
Economaidd
Mae Gŵyl Llanandras yn cymryd y camanu dilynol i gyfrannu at yr economi leol ar yr un pryd â bodloni anghenion y sefydliad:
- Rydym yn defnyddio cyflenwyr lleol lle bo modd am ein hanghenion, yn enwedig ar gyfer arlwyo a darpariaeth arbenigedd technegol.
- Rydym yn defnyddio cronfa gwirfoddolwyr a gweithlu lleol lle bo modd.
- Rydym yn annog ein cynulleidfa i ddefnyddio gwasanaethau lleol fel llety, siopau a bwytai.
- Rydym yn ymchwilio i ffyrdd newydd o hybu a chynnwys busnesau lleol gyda’r Ŵyl.
- Rydym yn gweithio gyda rhannau o’r gymuned sydd ag anghenion penodol er mwyn oresgyn rhwystrau i gymryd rhan.
- Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefyliadau lleol, y rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau celfyddydol ac eraill.
Cymdeithasol
- Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynnwys y gymuned leol mewn penderfyniadau a datblygiadau mawr, ac i gyrraedd rhannau o’r gymuned sydd efallai wedi ymddieithrio.
- Rydym yn parchu’r gymuned leol ac yn peri cyn lleied o anghyfleustra iddi â phosibl yn ystod cyfnod yr Ŵyl, gan gyfathrebu’n rheolaidd â’r sawl y mae’n debyg y bydd effaith arnynt.
- Rydym yn ategu darpariath addysg yn yr ardal trwy gynnig prosiectau celfyddydau arbennig sy’n agor cyfleoedd creadigol.
- Rydym yn gwella cyfle creadigol i rannau hŷn a rhannau ynysig o’r gymuned trwy brosiectau celfyddydau cyfranogol.
- Rydym yn nodi dulliau o gynnwys cyrff gwirfoddol a busnesau lleol fel partneriaid yn ein digwyddiadau.
- Rydym yn cynnal ac yn chwilio am ddulliau newydd o wneud digwyddiadau’r Ŵyl yn hygyrch i bawb, yn arbennig sectorau hynny’r boblogaeth leol sy’n wynebu rhwystrau i’w mynychu.