Creadigrwydd, arloesedd a chymuned Gŵyl yng Ngororau hardd Cymru
Bellach yn ei 43edd blwyddyn, mae gan Ŵyl Llanandras le unigryw yng nghalendr cerddorol y DU – ‘gŵyl sy’n parhau i synnu a chyfareddu. Mae ei chymysgedd o gerddoriaeth hygyrch ond treiddgar, a chyfoes yn amlwg, wedi’i gosod mewn rhaglenni boddhaus, wedi’u llunio’n ofalus, yn parhau yn agwedd unigryw, ddigyffelyb ac amhrisiadwy yng nghalendr cerddoriaeth glasurol Prydain’ (Musical Opinion).
Mae’r Ŵyl yn cael ei chydnabod yn eang am ei gwaith eithriadol yn comisiynu, perfformio a hyrwyddo cerddoriaeth newydd ac mae ganddi draddodiad cryf o raglen sy’n cefnogi cyfansoddwyr byw ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Teimlir ei dylanwad yn gelfyddydol ac yn economaidd ledled y Gororau a’r tu hwnt.
Gan weithio’n agos gyda cherddorion, awduron, artistiaid a gwneuthurwyr i greu a churadu digwyddiadau ysbrydoledig ar gyfer cynulleidfa Gŵyl sy’n ehangu’n barhaus, mae’r sefydliad yn darparu ac yn galluogi cyfleoedd ehangu profiad i’w chymuned letyol.
Cynhelir Gŵyl Llanandras bob mis Awst, gyda rhaglen fywiog pum diwrnod sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth dros Ŵyl y Banc. Yn ogystal, ym mis Mai, mae’r sefydliad yn hyrwyddo ei Benwythnos Naidfwrdd – gan lansio blwyddyn yr Ŵyl yn berffaith – sy’n cynnwys casgliad hynod ddychmygus o ddigwyddiadau cymunedol.
Mae’r ffaith y gall digwyddiadau mor arwyddocaol ddigwydd yn y fath lefydd diarffordd yn rhyfedd ond yn fendigedig. Efallai y dwedwch bron yn wyrthiol.
Michael White, Catholic Herald














