• ENG
  • CYM
  • Gŵyl Llanandras 2027 | 26-30 Awst

    Bydd dathlu wrth galon Gŵyl Llanandras 2027, ein gŵyl i nodi ei phen-blwydd yn 45 oed – blwyddyn nodedig sydd hefyd yn nodi 125 mlynedd ers geni William Walton a phen-blwydd yn 70 oed ein cyfarwyddwr artistig ers blynyddoedd lawer, George Vass.

    Rydym wrth ein bodd o groesawu Jonathan Dove fel cyfansoddwr preswyl – bydd ei gerddoriaeth i’w chlywed drwy gydol yr Ŵyl, o ganeuon, gweithiau cerddorfaol, siambr, corawl ac offerynnol i ddwy opera fach hynod a nodedig, Seven Angels a Pig.

    Fel bob amser, bydd yr Ŵyl yn cynnig llwyfan bywiog i gerddoriaeth gyfoes, gyda gweithiau newydd a diweddar gan restr gyffrous o gyfansoddwyr, gan gynnwys Richard Blackford, Jingyu Chen, Amelia Clarkson, Jonathan Dove, Ninfea Cruttwell-Reade, Steve Goss, Thomas Hyde, Joseph Phibbs, Ella Roberts, Aileen Sweeney, Matthew Taylor, Freya Waley-Cohen a James B Wilson. Yn ychwanegu at y dathliadau bydd trefniant arbennig gan David Matthews ar gyfer cerddorfa siambr o Courtly Dances gan Britten, o’r opera Gloriana.

    Y tu hwnt i raglen y cyngherddau a’r opera, bydd yr Ŵyl unwaith eto yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau celfyddydol – arddangosfeydd, dangosiadau ffilm a sgyrsiau, barddoniaeth, yn ogystal â’n cydweithrediad parhaus â phenwythnos ‘Open Studios’ Llanandras.

    Ymhlith yr artistiaid sy’n perfformio mae:

    Y Fidelio Trio • Sacconi Quartet •· Craig Ogden gitâr • Tom Poster, Mary Dullea a Timothy End piano · Rebecca Bottone soprano • Julien Van Mellaerts bariton • Daniel Shao ffliwt · Darragh Morgan fiolin · Sarah-Jane Bradley fiola • Cara Berridge a Tim Gill sielo • Bath Camerata, gyda Robert Brooks yn arwain • Cerddorfa Gŵyl Llanandras ac Opera Gŵyl Llanandras, gyda George Vass yn arwain.

    Cyhoeddir y rhaglen lawn ddiwedd Ebrill 2027.