
Digwyddiad 8 – BYWYD AC ETIFEDDIAETH YR ARGLWYDDES CHARLOTTE GUEST
Dydd Gwener 28 Awst, 4:00 pm
Ystafelloedd Cynulliad, Llanandras LD8 2AD
Ystafelloedd Cynulliad, Llanandras LD8 2AD
Mae Dr Sioned Davies yn ein cyflwyno i’r Arglwyddes Charlotte Guest, un o fenywod mwyaf grymus y 19eg ganrif. Yn enedigol o Swydd Lincoln, priododd â’r meistr haearn John Guest a symud i Ddowlais, De Cymru, lle daeth yn fusneswraig lwyddiannus ac yn ddiwygwraig addysg. Caiff ei chofio’n bennaf am ei chyfieithiad i’r Saesneg o chwedlau’r Mabinogion. Mae ei dyddiadur, a gadwodd am bron i 70 mlynedd, yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar fyd y 19eg ganrif. Wedi’u plethu â disgrifiadau o wleddoedd ym Mhalas Buckingham a therfysgoedd ym Merthyr ceir tensiynau, cwestiynau, amheuon a llawenydd y fenyw ryfeddol hon.
Tickets:Tocynnau: £10 · £5 Pobl Ifanc (8–25 oed)
Event ends:Amser gorffen: 5:00 pm
