• ENG
  • CYM
  • Gŵyl Llanandras | 2026
    27-31 Awst

    Gŵyl Llanandras | 27-31 Awst 2026

    Mae Gŵyl Llanandras yn cael ei chreu mewn partneriaeth â chymuned hynod dalentog o gyfansoddwyr, cerddorion ac artistiaid.

    Mae rhaglen gerddoriaeth yn amlygu cyfraniad eithriadol cyfansoddwyr benywaidd o’r 20fed a’r 21ain ganrif. Croesawn Michael Zev Gordon fel cyfansoddwr preswyl, dathlwn benblwyddi allweddol Cecilia McDowall, Sally Beamish ac Adrian Williams, ac amlygwn waith un o’r cyfansoddwyr mwyaf cyffrous o’r Iseldiroedd, Mathilde Wantenaar. Tu hwnt i gerddoriaeth, mae’r ŵyl yn cynnig barddoniaeth, sgyrsiau llenyddol a cherddorol, tymor o ffilmiau gan y cyfarwyddwr Jane Campion, a phenwythnos poblogaidd ‘Open Studios’ – wedi’i gynhyrchu’n arbennig gan gymuned artistiaid a gwneuthurwyr Llanandras.

    Mae ein rhaglen gerddoriaeth gyfoes yn cynnwys cymysgedd ffres o leisiau ac arddulliau, gan arddangos y creadigrwydd, yr arloesedd a’r amrywiaeth sy’n diffinio tirwedd cerddoriaeth glasurol heddiw, gyda gweithiau newydd gan Michael Berkeley, Cameron Biles-Liddell, Cheryl Frances-Hoad, Lillie Harris, Gabriel Jackson, Tayla-Leigh Payne, Robert Peate, Electra Perivolaris, Lynne Plowman, Emma-Ruth Richards, Claire Victoria Roberts, Natalie Roe a Daniel Soley.

    Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i ganolfan ddiwylliannol lewyrchus Sir Faesyfed ym mis Awst.