• ENG
  • CYM
  • Cyfansoddwch ar gyfer Telyn | 2025

    Cyfansoddwch ar gyfer Telyn | 2025

    Cyfleoedd datblygu proffesiynol i gyfansoddwyr ar ddechrau’u gyrfa

    Yn 2024, lansiodd Gŵyl Llanandras, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Datblygu Talent Sefydliad PRS, Ymddiriedolaeth Garrick, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac mewn partneriaeth â Thŷ Cerdd, brosiect datblygu cyfansoddwyr newydd ar gyfer hyd at chwe chreawdwr cerddoriaeth sy’n dod i’r amlwg, tri ohonynt wedi’u geni yng Nghymru neu wedi’u lleoli yno

    Rhoddodd y cynllun, a oedd yn agored i gyfansoddwyr ar ddechrau eu gyrfa nad ydynt mewn addysg amser llawn, gomisiwn i bob ymgeisydd a ddewiswyd ar gyfer darn unawd pum munud, a gafodd ei weithdyo o flaen cynulleidfa fyw yn ystod penwythnos Naidfwrdd Gŵyl Llanandras, ac erbyn hyn mae recordiadau fideo o’r gweithiau wedi’u cyhoeddi ar wefan Gŵyl Llanandras.

    Mae’r Derbyniodd yr ymgeiswyr a ddewiswyd fentora gan offerynwyr arbenigol â phrofiad helaeth mewn cerddoriaeth gyfoes, yn ogystal ag oddi wrth gyfansoddwyr a Chyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, George Vass. Mentoriaid ‘Cyfansoddi ar gyfer telyn’ oedd Lynne Plowman, Anne Denholm-Blair ac Olivia Jageurs; rhoddasant arweiniad pwysig ar gyfansoddi yn ogystal ag ar ymarferoldeb sicrhau bod pob darn yn gweithio’n dda ar yr offeryn a ddewiswyd.

    Cliciwch ar luniau’r cyfansoddwyr isod i ddysgu mwy amdanynt, darllen am eu darnau, a mwynhau perfformiadau o’r gweithiau newydd ‘Cyfansoddi ar gyfer Telyn’ gan Olivia Jageurs