
Gŵyl Llanandras | 21-25 Awst 2025
Bydd Gŵyl Llanandras 2025 yn coffáu 50 mlynedd ers marwolaeth Dmitri Shostakovich (1906–1975), un o leisiau Rwsiaidd mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, gyda ffocws arbennig ar ei gerddoriaeth.
Gan ddangos ei hymrwymiad parhaus i gerddoriaeth gyfoes, bydd yr Ŵyl yn croesawu’r cyfansoddwr Prydeinig Eleanor Alberga a anwyd yn Jamaica fel cyfansoddwr preswyl yn ogystal â chomisiynu casgliad o weithiau gan gyfansoddwyr eang ac amrywiol iawn – Eleanor Alberga, Kerensa Briggs, James Frances Brown, Martin Butler, Ninfea Cruttwell-Reade, Edward Gregson, Helen Grime, Gavin Higgins, Dani Howard, Tayla-Leigh Payne, Huw Watkins, James B Wilson a Derri Joseph Lewis, aelod o garfan gyfansoddwyr y Royal Philharmonic Society 2025.
Bydd cerddoriaeth gan gyfansoddwyr byw eraill – Thomas Adès, John Casken, Jonathan Dove, Mared Emlyn, Helen Grime, Cheryl Frances-Hoad, Thomas Hyde, Cecilia McDowall, Roxanna Panufnik, Robert Peate, Steve Reich, Mark Simpson a Judith Weir – ochr yn ochr â gweithiau gan Bach, Beethoven, Britten, Chopin, Copland, Mahler, Mozart, Piazzolla, Schubert, Stravinsky, Takemitsu a Grace Williams.
Yn ogystal â 14 o berfformiadau cyngerdd ac opera, bydd yr Ŵyl yn cynnig cymysgedd amrywiol o ddigwyddiadau celfyddydol – arddangosfeydd, sgrinio ffilmiau, barddoniaeth, sgyrsiau gan Stephen Johnson, Gavin Plumley, Peter Wakelin ac, mewn partneriaeth ag artistiaid a gwneuthurwyr lleol, penwythnos ‘Open Studios’ Llanandras, sydd bob amser yn boblogaidd.
Mae Gŵyl 2025 yn cynnwys rhestr wych o artistiaid, gan gynnwys: y Castalian Quartet, Opera Nova Music, Leonore Trio, Erda Ensemble, Robert Plane (clarinét), Marta Fontanals-Simmons (mezzo-soprano), Benjamin Nabarro (fiolin), Tim Horton (piano), Gemma Rosefield (sielo), Chloë Vincent (ffliwt), Olivia Jageurs (telyn), Emma Roijackers a Laura Rickard (fiolin), Timothy End (piano), y Bath Camerata a Cherddorfa Gŵyl Llanandras o dan George Vass (arweinydd).