Gan adeiladu ar lwyddiant ein penwythnosau Naidfwrdd y tair blynedd ddiwethaf, mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno rhifyn arall o’r ŵyl fach boblogaidd hon fis Ebrill nesaf. Naidfwrdd yw lansiad blwyddyn yr Ŵyl – penwythnos bywiog sy’n dathlu’r celfyddydau drwy raglen o ddigwyddiadau yn y gymuned ledled y dref. Cyhoeddir y rhaglen lawn ym mis Ionawr ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
